Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:             Mae Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 (‘y Rheoliadau’) wedi eu gwneud o dan adran 17 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023. Mae adran 17 yn cymhwyso swyddogaethau yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (‘y Ddeddf’) i’r Rheoliadau. Mae adran 52 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer gorfodi cosbau ariannol ac mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau yn adlewyrchu’r geiriad yn y pŵer galluogi hwnnw. Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gorfodi cosbau ariannol drwy’r llysoedd sifil ac er ein bod yn cydnabod y gallai fod wedi ei fynegi’n gliriach, nid ydym yn credu ei fod yn aneglur.  

 

Pwynt Craffu Technegol 2:            Mae adran 65 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cyhoeddi camau gorfodi ac mae rheoliad 14 o’r Rheoliadau yn adlewyrchu’r geiriad yn y pŵer galluogi hwnnw. ‌O ran y cwestiynau a ofynnir gan y Pwyllgor: a) y bwriad y tu ôl i reoliad 14(3) yw galluogi disgresiwn mewn amgylchiadau pan y gall fod yn amhriodol i rai achosion gael eu cyhoeddi b) gallai ystyriaethau diogelu data, er enghraifft, arwain Gweinidogion Cymru i’r casgliad y gall fod yn amhriodol i rai achosion gael eu cyhoeddi, ac c) gallai Gweinidogion Cymru gysylltu ag awdurdodau lleol yn ysgrifenedig ynghylch arfer y disgresiwn.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:            Mae adran 40(3) o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiad o fwriad ac mae paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn adlewyrchu’r gofynion yn y pŵer galluogi hwnnw. O ran y cwestiynau a ofynnir gan y Pwyllgor: a) o ran darpariaeth ddeddfwriaethol, na ddylai, mae’r ddarpariaeth yn adlewyrchu gofynion ei phŵer galluogi. Fodd bynnag, nid yw cynnwys yr hysbysiad a restrir yn y ddarpariaeth yn gynhwysfawr ac, felly, o ran cymhwysiad ymarferol, caiff yr hysbysiad fynd i’r afael â materion gweinyddol ychwanegol gan gynnwys sut y gellir gwneud y taliad rhyddhau, a b) ystyr ‘gofyniad’ yw’r gofyniad i dalu’r gosb ariannol benodedig. Er ein bod yn nodi y gallai paragraff 2(2)(d)(iii) fod wedi ei fynegi’n gliriach, nid ydym yn credu ei fod yn aneglur.    

 

Pwynt Craffu Technegol 4:            Mae paragraff 1(4) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn darparu disgresiwn i’w gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth. Nid yw’r ddarpariaeth yn cynnwys mecanwaith i orfodi’r gofyniad nac yn atal dyroddi’r hysbysiad (neu ystyried opsiynau gorfodi eraill) pan fo person yn gwrthod darparu gwybodaeth.